Loading Digwyddiadau

Gan ddod ynghyd yn y capeli corffdai Gothig Fictoraidd a adnewyddwyd, ac ar lan beddau, bydd pawb yn y digwyddiad yn clywed am hanes rhyfeddol Mynwent Cathays. Bydd actorion a cherddorion yn dod â hanes y safle unigryw hwn yn fyw drwy gyflwyno hanesion am y rhai a gladdwyd yn y fynwent. Mae ‘Lleisiau o’r Tu Hwnt i’r Bedd’ yn cwmpasu Oes Fictoria ymlaen i ganol yr 20fed ganrif ac yn amrywio o’r cyfoethog, arwrol neu’r uchel eu parch, i leisiau trasig a rhai hynod.