Amlosgiadau
Mae 2 gapel yn Amlosgfa Caerdydd, Draenen Pen-y-graig. Cynhelir gwasanaethau mewn slotiau o 45 munud ac maent ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener a’r rhan fwyaf o foreau Sadwrn (codir tâl ychwanegol ar benwythnosau).
Gellir llogi capeli ar gyfer gwasanaethau claddu neu goffa neu i ymestyn y gwasanaeth amlosgi gan 45 munud ychwanegol.
Mae nifer o opsiynau ar gael ar gyfer gweddillion wedi’u hamlosgi ar ôl yr angladd.

Claddedigaeth
Gall gweddillion wedi’u hamlosgi gael eu claddu mewn beddau newydd a all ddarparu ar gyfer gweddillion eraill wedi’u hamlosgi neu gladdedigaethau eraill yn y dyfodol. Gall gweddillion wedi’u hamlosgi hefyd gael eu claddu mewn beddau sydd eisoes yn bodoli, gyda’r caniatâd perthnasol.
Eitem | Pris |
---|---|
Prynu bedd | £430 |
Ffi claddu | £350 |
Colwmbariwm
Gellir rhoi gweddillion wedi’u hamlosgi mewn cilfach colwmbariwm. Bydd y plac coffa ar flaen y gilfach colwmbariwm yn cael ei ddylunio gan y teulu a’i gynnwys yn y pris. Mae gennym gilfachau sy’n darparu ar gyfer 2 neu 4 set o weddillion wedi’u hamlosgi.
Eitem | Pris |
---|---|
Prynu niche | O £900 |
Y Panorama Cilfachau Coffa | Lawrlwytho’r daflen wybodaeth |

Gwasgaru
Mae wyth gardd goffa ym Mynwent Draenen Pen-y-graig ac un ym Mynwent y Gorllewin. Gallwn gyfeirio at ein cofnodion o wasgariadau blaenorol i sicrhau bod aelodau o’r un teulu yn cael eu rhoi i orffwys gyda’i gilydd. Gellir gwneud apwyntiadau i aelodau o’r teulu fynychu gwasgariadau. Mae gwasgariadau dioruchwyliaeth yn cael eu cynnal bythefnos ar ôl diwrnod yr angladd.
Eitem | Pris |
---|---|
Ffi presenoldeb | £30 |
Mynd â’r gweddillion i rywle arall
Gallwch fynd â gweddillion wedi’u hamlosgi i rywle arall ar gyfer gwasgariad neu gladdedigaeth breifat neu eu cadw yn eich cartref tan fod y teulu’n barod i’w rhoi i orffwys. Caiff tystysgrif amlosgi ei chyhoeddi bob tro a rhaid cael y caniatâd cywir cyn i unrhyw weddillion amlosgedig gael eu gwasgaru neu eu claddu.
Eitem | Pris |
---|---|
Tystysgrif amlosgi | £15 |
Tiwb gwasgariad | £15 |

Dal
Gallwn ddal y gweddillion amlosgedig yn ddiogel yn Nraenen Pen-y-graig am gyfnod o 4 wythnos i roi mwy o amser i deuluoedd wneud penderfyniad. Argymhellwn i chi drefnu apwyntiad gyda’r Swyddfa Ymholiadau yn Nraenen Pen-y-graig i ystyried yr opsiynau os nad ydych yn siŵr am hyn.
Mae llawer o gofebion ôl-amlosgi ar gael. Darllenwch y dudalen cofebion am ragor o wybodaeth.