Croeso i Wasanaethau Profedigaeth Caerdydd
Mae Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn rhan o Gyngor Dinas Caerdydd. Rydym yn gweithredu Amlosgfa Caerdydd yn Thornhill a 7 mynwent yng Nghaerdydd
Mae ein staff profiadol yn cynnig cyngor di-dâl a diduedd ar unrhyw fater mewn perthynas ag angladdau a threfniadau angladdau. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwerthu placiau coffa, casgedau gweddillion a amlosgwyd a chardiau coffa. Rydym hefyd yn cynnig Gwasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd sydd wedi bod yn cynnig dewis pris sefydlog cost isel i drigolion Caerdydd ers mwy na 20 mlynedd.
Digwyddiadur
Llwybr a Hanesion Treftadaeth Mynwent Cathays,“Lleisiau’r Fynwent”
7 Mehefin @7:00 pm - 9:00 pm